Cyfleoedd Newydd i Feddygon Ymgynghorol
Yn sgîl y ffaith bod y GIG yng Nghymru yn cael ei foderneiddio, mae nifer o swyddi Meddygon Ymgynghorol ar gael mewn Ymddiriedolaethau ledled Cymru. Am fanylion y swyddi hyn, cliciwch ar y ddolen isod.Bydd y meddygon ymgynghorol yn y swyddi hyn yn cael cyfle ardderchog i gymryd mantais ar delerau contract newydd GIG Cymru i Feddygon Ymgynghorol, a byddant yn mwynhau'r manteision o weithio yn y GIG yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth agos â chynrychiolwyr GIG Cymru er mwyn datblygu'r contract hwn, sy'n cynnig gwell bargen i gleifion yn ogystal â meddygon ymgynghorol. Bydd y contract yn cynnig gwell tâl, amodau gweithio hyblyg a chydnabyddiaeth am weithio ar alw. Am fwy o wybodaeth ynghylch manteision y contract newydd, cliciwch ar y ddolen isod.
Gyda phrisiau tai isel, ein golygfeydd trawiadol a'n pobl gyfeillgar, groesawgar, gallai gweithio i'r GIG yng Nghymru wella'ch gyrfa ac ansawdd eich bywyd yn sylweddol.
Am ragor o fanylion, cliciwch ar y dolenni isod:
Contract Newydd i Feddygon Ymgynghorol GIG Cymru
Swyddi gwag ar hyn o bryd
