Cwestiynau Cyffredin – Presgripsiynau am ddim
Pwy fydd â'r hawl i gael presgripsiynau am ddim?
Yn ogystal â phresgripsiynau am ddim, bydd y taliadau a godir am wigiau a chyfarpar yn cael eu diddymu. Os yw claf yn cael y gwasanaethau hyn gan Ymddiriedolaeth GIG yn Lloegr, dylai'r Bwrdd Iechyd Lleol dalu'r costau.
Beth sy'n digwydd os bydd cleifion o Gymru'n cyflwyno'u presgripsiwn mewn fferyllfa yn Lloegr?
Bydd cleifion y cyflenwir eu presgripsiynau y tu allan i Gymru yn gorfod talu'r cyfraddau a godir yn y wlad honno, os nad oes ganddynt hawl i gael presgripsiwn am ddim o dan reoliadau'r wlad honno, er enghraifft oherwydd eu hoedran neu fod arnynt gyflwr meddygol neilltuol.
Os yw claf eisoes wedi talu am dystysgrif rhag-dalu a fydd yn cael ad-daliad?
Bydd. Ni fydd angen tystysgrifau rhag-dalu ar gleifion ar gyfer presgripsiynau o hyn ymlaen.
Bydd hawl gan gleifion sydd â misoedd heb eu defnyddio ar eu tystysgrif gyfredol i gael ad-daliad am y misoedd hynny.
Gan fod y bwriad i roi presgripsiynau am ddim wedi'i gyhoeddi y llynedd, cafodd cleifion gyfle i benderfynu pa fath o dystysgrif y dylent ei phrynu, fel na fydd angen rhoi llawer o ad-daliadau.
Fodd bynnag, mae'n dal yn bosibl i gleifion o Gymru nad ydynt yn gorfod talu am bresgripsiynau o dan y system eithrio feddygol neu famolaeth gyfredol wneud cais am dystysgrif fel y gallant gael eu meddyginiaeth o fferyllfeydd cyflenwi yn Lloegr, os mai dyna fel y maent wedi arfer gwneud.
