Crynodeb o gwestiynau
3: Atebolrwydd a Chyngor Allanol
3a Beth yw eich barn am y dulliau atebolrwydd a llywodraethu
sydd wedi'u cynnig?
3b Sut fyddech chi'n gweld panel Sicrwydd Ansawdd yn
gweithio?
3c. Sut y gallai Uned DGAC gynnal cysylltiad effeithiol â
phrosesau rhanbarthol fel a ddisgrifir yn y Cynllun Oes, gan sicrhau cyngor ar
iechyd cyhoeddus a gweithio gyda'r holl gyflogwyr a rhanddeiliaid?
4: Gwella gwasanaeth cwsmeriaid a rhanddeiliaid
4a Pa awgrymiadau sydd gennych ar sut gallai Uned DGAC ymdrin
â gofynion hyfforddi'r gweithlu cyfan a bodloni'r gofynion hynny?
4b Beth yw'r ffordd orau o gysylltu'r swyddogaethau a
gyflawnir ar hyn o bryd gan yr IAD mewn perthynas ag addysg feddygol a
deintyddol is-raddedig ac ôl-raddedig â'r cynlluniau ar gyfer Uned
DGAC?
4c Beth yw eich barn am y trefniadau presennol i gynllunio'r
gweithlu a'r graddau y maent yn diwallu anghenion gweithlu'r
Ymddiriedolaethau/Byrddau Iechyd Lleol a gofal sylfaenol?
4d Beth yw eich barn chi ar y ddarpariaeth bresennol ar gyfer
addysg a hyfforddiant ôl-gofrestru yng ngholeuni'r gofynion ar gyfer rolau
newydd a gofynion FfSG?
4e Mae'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (CNB) yn bwriadu cynnal
proses dendro yn nhymor yr hydref 2005 ar gyfer darparu eu gofynion sicrwydd
ansawdd ar gyfer Cymru ar ôl Ebrill 2006. Fe'ch gwahoddir i roi eich barn ar ba
mor briodol yw hi i PIC, ar y cyd ag Uned DGAC, fwrw ymlaen â'r broses dendro,
neu briodoldeb cael sefydliad arall i ddrparu sicrwydd ansawdd ar ran y Cyngor
Nyrsio a Bydwreigiaeth yng Nghymru.
4f Pa gynigion fyddech chi'n eu hawgrymu i ddangos sut y gall
swyddogaethau sicrwydd ansawdd a gyflawnir ar ran y CNB gael eu cynnal ar wahân
i weithgareddau eraill Uned DGAC?
5: Dangos canlyniadau a defnyddion arfer gorau
5.1 Bydd gwaith â ffocws yn cael ei wneud i benderfynu ar
ddarpariaeth gwasanaeth gyrfaoedd yn y dyfodol. Rydym am glywed eich
barn.
5.1.1 Beth yw eich barn am ddarparu swyddogaeth awdurdod
goruchwylio lleol yn y dyfodol?
5.1.2 Beth yw eich barn am ddarparu swyddogaeth yr Uned
Grantiau Myfyrwyr yn y dyfodol?
5.2.1a Sut gallai'r trefniadau presennol i gynllunio'r
gweithlu gael eu gwella?
5.2.1b Sut gall y swyddogaeth recriwtio a chadw, sy'n cael
ei darparu ar hyn o bryd gan y gangen rheoli'r gweithlu, helpu gwaith y
gwasanaeth iechyd yn y ffordd orau yn y dyfodol?
5.2.2a A ydych yn cytuno y dylid trosglwyddo pob swyddogaeth
a ddarperir ar hyn o bryd gan y gangen addysg, hyfforddiant a datblygiad i Uned
DGAC?
5.2.2b O ystyried Cwestiwn 4b, a oes gennych farn ynghylch
p’un a ddylid cynnwys comisiynu addysg feddygol a deintyddol yn Uned DGAC ai
peidio?
5.2.2c Beth yw eich awgrymiadau ar gyfer gwella'r trefniadau
presennol i gomisiynu addysg a hyfforddiant?
5.3 Beth yw eich barn am gynnwys y swyddogaethau ariannol sy'n
rhoi cymorth uniongyrchol i drosglwyddo'r gwaith o gynllunio a chomisiynu'r
gweithlu i Uned DGAC?
6: Darparu gwasanaethau mewn ffordd symlach
6a O gofio'r enghreifftiau a ddarparwyd ar waith prosiectau
PIC ar gyfer 2005/6, beth fyddai eich blaenoriaethau ar gyfer y math hwn o waith
yn y dyfodol?
6b Nodwch unrhyw faterion ychwanegol sy'n gysylltiedig â
datblygu'r gweithlu a/neu gomisiynu addysg a hyfforddiant y dylid, yn eich barn
chi, fynd i'r afael â hwy
8: Trefnu er mwyn darparu gwasanaethau
Nodwch unrhyw sylwadau ychwanegol na ofynnwyd amdanynt yn
unrhyw ran arall o'r ddogfen hon.