Côd Ymddygiad a Chôd Ymarfer GIG Cymru

Côd Ymddygiad i Weithwyr Cynnal Gofal Iechyd yng Nghymru a Chôd Ymarfer ar gyfer Cyflogwyr GIG Cymru

Yn dilyn ymgynghori helaeth, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi dwy ddogfen; Mwy o wybodaeth am y ddogfen ganlynol    Côd Ymddygiad i Weithwyr Cynnal Gofal Iechyd yng Nghymru a Mwy o wybodaeth am y ddogfen ganlynol    Chôd Ymarfer ar gyfer Cyflogwyr GIG Cymru. 

Mae’r Côd Ymddygiad hwn yn disgrifio’r safonau ymddygiad ac ymagwedd a ddisgwylir gan yr holl Weithwyr Cynnal Gofal Iechyd a gyflogir yn GIG Cymru. Mae’r Côd yn cwmpasu’r holl Weithwyr Cynnal Gofal Iechyd a gyflogir mewn sefyllfaoedd clinigol ac anghlinigol yn y GIG, ac fe wneir cyfeiriad ato mewn swydd-ddisgrifiadau.
 
Mae’r Côd Ymarfer ar gyfer cyflogwyr GIG Cymru yn fecanwaith sicrhad pwysig sy’n rhoi cymorth wrth gyflogi Gweithwyr Cynnal Gofal Iechyd yng Nghymru.

Mae'r ddau Côd yn cefnogi egwyddorion sylfaenol o ddiogelwch defnyddwyr gwasanaeth a diogelwch y cyhoedd a dylent atgyfnerthu arferion gwaith dydd i ddydd y GIG yng Nghymru
 


Dogfennau