Ceiswyr Lloches
Ceisiwr lloches yw rhywun sy’n aros i’r llywodraeth ystyried ei gais i gael ei gydnabod fel ffoadur. Ffoadur yw rhywun sydd wedi gwneud cais am loches ac sydd wedi cael statws ffoadur gan y gyfraith.
Mae tua 2,500 o geiswyr lloches wedi eu gwasgaru ar hyd pedair ardal glwstwr yng Nghymru. Daw’r bobl hyn o sawl ardal a’r deg uchaf ym mis Ebrill 2006 oedd: Pacistan, Somalia, Iran, Twrci, Irac, Congo (Gweriniaeth Ddemocrataidd), Afghanistan, Y Swdan, Zimbabwe, ac Algeria.
Ar ddechrau mis Ebrill 2006, dangosai’r ffigyrau fod ychydig o dan 89% o geiswyr lloches yng Nghymru yn deuluoedd; y mwyafrif llethol ohonynt yn gartrefi lle mae menywod yn ben ar y teulu.
Cyfrifoldeb Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdod Lleol yw plant nad ydynt yng nghwmni oedolyn sy’n ceisio lloches. Dyma pan fyddant yn chwilio am gefnogaeth yn y lle cyntaf, ac yn agored iawn i niwed.
Mae ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn gwneud cyfraniadau economaidd a chymdeithasol amrywiol i’n cymunedau, trwy gyflogaeth a thrwy gelfyddyd, diwylliant a chwaraeon. Mae nifer o geiswyr lloches a ffoaduriaid hefyd yn gwirfoddoli yn eu cymunedau eu hunain ac yn ehangach.
Mae Consortiwm Awdurdodau Lleol Cymru ar gyfer Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches yn gweithio gydag awdurdodau lleol Cymru er mwyn cynnig cefnogaeth, arweiniad polisi a hyfforddiant. Gwneir cryn dipyn o’r gwaith hwn gyda phartneriaid, gan gynnwys Plant yng Nghymru, Swyddfa’r Comisiynydd Plant, Cronfa Achub y Plant (DU) a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae Tîm Oedolion Agored i Niwed GICCC yn anelu at ddatblygu arweiniad arfer da er mwyn sicrhau bod grwpiau lleiafrifol dethol, megis ceiswyr lloches, yn derbyn gofal iechyd digonol. Mae Amcanion Allweddol ar gyfer 2006/7 fel a ganlyn:
- Rhoi arweiniad i Grŵp Iechyd Ymgynghorol Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid Cymru (WASRHAG) a darparu arweiniad arfer da ar iechyd meddwl a gwasanaethau plant.
1.Ffynhonnell: Cyngor Casnewydd.
