Bwrdd Cynghori Cenedlaethol Cefnogi Pobl

Llywodraeth CymruCyflog

Swydd wirfoddol yw hon ond telir treuliau rhesymol.

Cefndir y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol Cefnogi Pobl

Dechreuodd y rhaglen Cefnogi Pobl ym mis Ebrill 2003. Drwy'r rhaglen, caiff unigolion a theuluoedd sydd wedi'u hallgáu'n gymdeithasol ac sydd mewn perygl o golli eu cartref eu helpu i adennill eu hannibyniaeth.

Ym mis Tachwedd 2010, cynhaliwyd adolygiad annibynnol o'r rhaglen gan yr Athro Syr Mansel Aylward. Argymhellwyd yn yr adroddiad: “the Deputy Minister for Housing and Regeneration considers the establishment of a Supporting People National Advisory Board (SPNAB) which would be chaired by the Deputy Minister to provide her with advice and information”. Nawr, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sefydlu'r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol Cefnogi Pobl cyntaf erioed.

Nod a ffocws cyffredinol y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol Cefnogi Pobl fydd sicrhau y bydd y rhaglen Cefnogi Pobl yn canolbwyntio ar ddiwallu anghenion tai pobl sy'n agored i niwed yng Nghymru.


Y rheswm dros benodi

Mae angen tri unigolyn i ymuno â'r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol Cefnogi Pobl newydd.


Manylion y swydd


Bydd aelodau annibynnol y Bwrdd yn:
  • mynychu cyfarfodydd y Bwrdd yn rheolaidd, yn paratoi ar eu cyfer yn briodol ac yn cyfrannu atynt mewn ffordd ddeallus;
  • helpu'r Cadeirydd i sicrhau consensws ym mhenderfyniadau'r Bwrdd;
  • bodloni safonau uchel o uniondeb a llywodraethu;
  • helpu i gyfleu'r weledigaeth ar gyfer Cefnogi Pobl ar draws y sector ac i ddefnyddwyr gwasanaethau.

Bydd gan yr aelodau ystod o sgiliau a ddisgrifir yn llawn yn y ddogfen Gwybodaeth i Ymgeiswyr. Yn gryno, bydd gan yr ymgeisydd arbenigedd yn y sector tai neu'r sectorau cysylltiedig, y gallu i feddwl mewn ffordd strategol, sgiliau arwain a chyfathrebu a'r gallu i gydweithio a chydgynhyrchu. Bydd ganddo hefyd ddealltwriaeth glir o faterion cydraddoldeb ac ymrwymiad iddynt, a bydd yn herio arferion gwahaniaethol lle bo hynny'n briodol; a dealltwriaeth glir o 'Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus' Nolan ac ymrwymiad iddynt.

Nifer y diwrnodau y disgwylir i aelodau ymrwymo i’w rhoi ac ymhle mae'r cyfarfodydd yn debygol o gael eu cynnal

Disgwylir i aelodau ymrwymo i roi o leiaf ddau ddiwrnod bob chwarter yn ogystal â mynychu cyfarfodydd chwarterol y Bwrdd. Mae'r cyfarfodydd yn debygol o gael eu cynnal yng Nghaerdydd neu Ferthyr Tudful, ond gallai fod angen cynnal cyfarfodydd ledled Cymru weithiau.

Mae’n bolisi gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo cyfle cyfartal a’i ymgorffori ym mhob agwedd ar ei gwaith gan gynnwys penodi i gyrff cyhoeddus. Mae’n croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd gan gynnwys menywod, cymunedau lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl. Cedwir at yr egwyddor o gystadleuaeth deg ac agored a phenodir ar sail teilyngdod.

I gael pecyn cais a rhagor o fanylion, cysylltwch â:

Yr Adran Tai, Adfywio a Threftadaeth
Tîm y Rhaglen Cefnogi Pobl
Y Llawr Daear
Llywodraeth Cymru
Swyddfa Merthyr Tudful
Rhyd-y-car
CF48 1UZ

Neu anfonwch e-bost i SupportingPeople@cymru.gsi.gov.uk.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 1 Rhagfyr. Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwnnw. Bwriedir cynnal cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau 12 Rhagfyr.



Gallwch gael copi print bras, Braille neu sain o'r hysbyseb hon drwy ffonio 0300 062 8304.