22 Mai 2012, Llywodraeth Cymru
Cymru'n symbylu cynnydd mewn cyfiawnder teuluol |
Mae cyfarfod cyntaf y Rhwydwaith Cyfiawnder Teuluol yng Nghymru wedi ei gynnal heddiw.
18 Mai 2012, Llywodraeth Cymru 
Gweinidog Iechyd yn Lansio Pecyn Gofal Iechyd y Geg
|
Mae’r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, wedi lansio pecyn gofal a fydd yn safoni ac yn gwella iechyd y geg mewn ysbytai ym mhob cwr o Gymru.
18 Mai 2012, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Tîm Iechyd Cyhoeddus Powys yn nodi Mis Ymwybyddiaeth o Strôc
|
Mae mis Mai yn Fis Ymwybyddiaeth o Strôc, ac mae Tîm Iechyd Cyhoeddus Powys yn atgoffa trigolion y sir sut i adnabod arwyddion strôc.
18 Mai 2012, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Iechyd Cyhoeddus Cymru’n dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys
|
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys trwy amlygu gwaith rhai o’i staff.
18 Mai 2012, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Pobl leol yn dod yn hyrwyddwyr iechyd
|
Mae pobl leol yng Ngwent yn cael cyfle i fod yn hyrwyddwyr iechyd yn eu cymuned, diolch i gynllun newydd a lansiwyd yr wythnos hon.
17 Mai 2012, Llywodraeth Cymru 
Adborth gan gleifion i fesur safon y GIG yn y dyfodol
|
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau er mwyn sicrhau bod cleifion yng Nghymru yn derbyn gofal o’r radd flaenaf ar yr adeg ac yn y lle y bydd ei angen arnyn nhw.
17 Mai 2012, Llywodraeth Cymru 
Staff yw’r allwedd i ddyfodol y GIG – Y Gweinidog Iechyd yn lansio fframwaith newydd ar gyfer y gweithlu
|
“Staff yw’r allwedd i lwyddiant y GIG,” Dyna eiriau Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd, wrth iddi lansio “Gweithio’n Wahanol – Gweithio Law yn Llaw” – Fframwaith i Ddatblygu’r Gweithlu a’r Sefydliad ar gyfer GIG Cymru.
16 Mai 2012, Llywodraeth Cymru 
Gweinidog yn croesawu ymgynghoriad ar labeli i helpu bwyta’n iach
|
Heddiw, croesawodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, ymgynghoriad ledled y DU sydd â’r nod o’i gwneud yn haws i bobl ddewis bwydydd iach
16 Mai 2012, Llywodraeth Cymru 
Ehangu prosiect i roi cymorth i bobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau
|
Mae prosiect sy’n rhoi cymorth i bobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau ddod yn annibynnol yn ariannol wedi cael hwb gan Lywodraeth Cymru.
16 Mai 2012, Llywodraeth Cymru 
Lleihau achosion strôc yng Nghymru
|
Mae cynllun newydd i sicrhau bod achosion strôc yng Nghymru gyda’r isaf yn Ewrop erbyn 2016 wedi’i gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru.
16 Mai 2012, Llywodraeth Cymru 
Gwasanaethau yng Nghymru yn dod ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’
|
Mae’r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, wedi lansio ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’, sef ymagwedd strategol Llywodraeth Cymru tuag at iechyd a lles meddwl.
10 Mai 2012, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Canlyniadau arolwg o heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd
|
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi canlyniadau astudiaeth Ewropeaidd i gasglu data ar heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd, y defnydd o ddyfeisiau meddygol a’r defnydd o gyffuriau gwrthficrobaidd mewn ysbytai.
09 Mai 2012, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
Cyhoeddir adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) heddiw yn dilyn Arolwg o Ofal Iechyd ar gyfer Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru
|
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad heddiw ar ‘Ofal Iechyd a Chymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru.’
04 Mai 2012, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Achos o cryptosporidiosis yn cael ei ymchwilio mewn ysgol yng Nghaerdydd
|
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir Caerdydd yn ymchwilio i sawl achos o salwch dolur rhydd ymysg disgyblion chweched dosbarth yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf, Caerdydd.
03 Mai 2012, Llywodraeth Cymru 
“Llwyddiant arbennig”: GIG Cymru yn cadw’r ddysgl yn wastad
|
Mae’r Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths wedi llongyfarch Byrddau Iechyd Lleol ledled Cymru am gyrraedd targedau ariannol ar gyfer 2011-12. Diolchodd y Gweinidog i reolwyr am eu “llwyddiant arbennig” o ystyried yr heriau ariannol y mae GIG Cymru yn eu hwynebu.
03 Mai 2012, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Cynllun iechyd yr afu yn cael ei lansio mewn carchardai
|
Heddiw lansiodd Iechyd Cyhoeddus Cymru gynllun darparu gwasanaeth i gynorthwyo carchardai Cymru i wella iechyd yr afu ymysg carcharorion.
30 Ebrill 2012, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Rhoi sylw i frechlynnau i blant yn ystod Wythnos Imiwneiddio Ewrop
|
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amlygu pwysigrwydd brechiadau i blant yn ystod Wythnos Imiwneiddio Ewrop 2012.
27 Ebrill 2012, Llywodraeth Cymru 
Penodi Dr Ruth Hussey fel Prif Swyddog Meddygol newydd i Gymru
|
Bydd Dr Ruth Hussey OBE yn olynu Dr Tony Jewell fel Prif Swyddog Meddygol Cymru pan fydd Dr Jewell yn ymddeol yn nes ymlaen eleni.
27 Ebrill 2012, Llywodraeth Cymru 
Cyhoeddi cyllid ar gyfer awtistiaeth
|
Heddiw mae Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi cyhoeddi pecyn cyllid gwerth £2m ar gyfer 2012-13 i gefnogi plant ac oedolion ledled Cymru sydd ag Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig (ASD).
26 Ebrill 2012, Llywodraeth Cymru 
£1.1bn o hwb i’r economi wrth fuddsoddi yn adeiladau’r GIG
|
Mae economi Cymru wedi derbyn hwb gwerth cannoedd ar filoedd o bunnau dros y chwe blynedd diwethaf, yn sgil buddsoddi mewn adeiladau ysbyty.
26 Ebrill 2012, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Achosion o’r frech goch yng Ngwynedd yn parhau i godi
|
Mae rhieni ar draws Gogledd Cymru yn cael eu hannog i sicrhau bod eu plant wedi cael y ddau ddogn o’r brechlyn MMR yn dilyn cynnydd yn yr achosion o’r frech goch ledled Gwynedd.
26 Ebrill 2012, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Y diweddaraf am yr achosion o cryptosporidiosis sy’n gysylltiedig â fferm yng Nghwmbrân
|
Mae pedwar person arall wedi cael diagnosis clinigol o cryptosporidiosis ac wedi eu cysylltu â’r achosion sy’n gysylltiedig â fferm yng Nghwmbrân.
26 Ebrill 2012, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Salwch tebyg i’r ffliw mewn cartref preswyl yn Sir Gaerfyrddin
|
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Ymchwilio i achosion o salwch tebyg i’r ffliw mewn cartref preswyl yn Sir Gaerfyrddin.
25 Ebrill 2012, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru
Labordai pwrpasol yn “fagwrfa ar gyfer arloesi”
|
Mae Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi agor labordai newydd o’r radd flaenaf sydd wedi eu creu i sicrhau bod GIG Cymru yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf.
24 Ebrill 2012, Llywodraeth Cymru 
Lansio ymgyrch i recriwtio meddygon
|
Heddiw, lansiodd Llywodraeth Cymru y cam nesaf mewn ymgyrch i ddenu clinigwyr, o feddygon dan hyfforddiant i feddygon ymgynghorol, i weithio yng Nghymru.